Mae gwlân wedi cael ei liwio ers miloedd o flynyddoedd, gan ddefnyddio cynhyrchion naturiol fel planhigion, coed a chennau. Ond beth sydd y tu ôl i gemeg lliwio gwlân? Beth sy’n digwydd ar lefel microsgopig? Bydd ymwelwyr yn gallu rhoi cynnig i liwio eu samplau gwlân eu hunain gan ddefnyddio sudd bresych coch, ac yn y broses, dysgu am pH a mordants yn y broses gemegol. Bydd ymwelwyr hefyd yn gallu defnyddio pecyn modelu i adeiladu moleciwl o wlân. Gall ymwelwyr hefyd edrych i lawr microsgop a dadansoddi sut olwg sydd ar wlân yn fanwl iawn.
Mae’r digwyddiad yma’n rhad ac am ddim, ond bob tro y byddwch chi’n cyfrannu rhodd boed fach neu fawr, byddwch yn ein helpu i sicrhau fod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb.
Gallwch gyfrannu drwy ymweld Cefnogwch ni | Amgueddfa Cymru