MENTER RABAR

10:00, 25 Mai

Cyfarfod ymgysylltu â’r gymuned a lansio ymgyrch ariannu torfol o geisio codi £50,000 at adnewyddu a throsi cyn-ysgol Aber-soch yn hwb cymunedol amlbwrpas, caffi yn cynnwys arddangosfa dreftadaeth, ystafell aml-ddefnydd i gynnal sesiynau ar gyfer amrywiol ddigwyddiadau/cyrsiau/gweithgareddau/grŵp dementia-gyfeillgar/gweithgareddau ar ôl ysgol/gwyliau ysgol, gardd gymunedol, unedau busnes i’w llogi.  Dewch draw i’n gweld yng nghanol pentref Aber-soch i roi eich barn ar y cynlluniau a dangos eich cefnogaeth!