Mentrau Cymunedol Lleol i yrru economi Cymraeg

10:00, 18 Mai

Mae angen swyddi yn y sir yn fwy nag erioed ond allwn ni ddim dibynnu ar gyflogwyr mawr i gefnogi ein cymunedau.

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal fforwm gyhoeddus i drafod “Mentrau Cymunedol Lleol i yrru economi Cymraeg” am 10 ar fore Sadwrn y 18ed o Fai yn Llyfrgell Caerfyrddin.

Bydd cynrychiolwyr o Cymunedoli, rhwydwaith o fentrau cymunedol yng Ngwynedd, sydd yn creu trosiant blynyddol o ddegau o filiynau o bunnoedd rhyngddynt ac yn cyflogi cannoedd o bobl yn esbonio sut maen nhw wedi mynd ati.
Mae gwybodaeth bellach am Cymunedoli wedi ei atodi.

Bydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Gâr, Ann Davies, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig gyda Chyngor Sir Gâr, ac eraill yn trafod posibiliadau tebyg yn Sir Gaerfyrddin er mwyn darparu gwaith a gwasanaethau.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â bethan@cymdeithas.cymru.