Mentrau Cymunedol i yrru Economi Cymraeg

10:00, 18 Mai 2024

Fforwm Agored i drafod sut allai creu Mentrau Cymunedol yrru economi Cymraeg yn Sir Gar a Dyffryn Teifi. Byddwn yn clywed am brofiadau prif swyddogion Mentrau Cymunedol Gwynedd (lle mae Mentrau o’r fath belach yn cyflogi 400+ o bobl), Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin a’r Cyng Ann Davies, a chan Wynfford James o Gymdeithas yr Iaith. Bydd cyfle i bawb leisio barn a syniadau a thrafod. CROESO I BAWB