Sioe gerdd ffrwydrol newydd am berson ifanc di-nod.
Wedi’i gwahardd o’r ysgol, ac yn methu hyd yn oed cael gwaith yn y siop tships, mae Jax (hi/nhw/beth bynnag) yn berson ifanc hoffus a beiddgar sy’n byw gyda’i Nain mewn pentref bach a diflas.
Pan mae Jax yn cwrdd â Ffion, merch sy’n siarad yn gall gyda steil trawiadol, mae’r atyniad rhyngthyn nhw’n wefreiddiol. Mae’r angerdd ifanc cwiar yn dod â’r pâr annhebygol hwn at ei gilydd yn ei holl ogoniant blêr, chwith ac anhygoel.
Mae Feral Monster yn dilyn Jax, a’i hymennydd swnllyd sy’n barod ei farn, wrth iddynt ddelio â chariad, hunaniaeth, bywyd a theulu. Gan gyfuno cerddoriaeth grime, R&B, soul, pop a rap, mae’r trac sain yn mynd â ni o uchelfannau i ddyfnderoedd taith wyllt hormonaidd ieuenctid.
Mae Feral Monster wedi’i hysgrifennu gan Bethan Marlow a’i chyfarwyddo gan Izzy Rabey, gyda cherddoriaeth gan Nicola T. Chang.
Y cast yw Lily Beau, Carys Eleri, Geraint Rhys Edwards, Rebecca Hayes, Nathaniel Leacock a Leila Navabi.
Mae Feral Monster wedi’i noddi gan Gronfa Agored Sefydliad PRS a’r John Ellerman Foundation, fel rhan o raglen ‘Dramaturg’ NTW.
Canllaw oed: 14+
*Dehongliad BSL gan Nikki Champagnie Harris
Bydd Taith Gyffwrdd ar nos Fercher 6 Mawrth, 6pm. Am ddim ond bydd angen archebu tocyn. Mae Teithiau Cyffwrdd yn cynnig cyfle i ymwelwyr dall neu â golwg rhannol ddod yn gyfarwydd â’r set, y propiau a’r gwisgoedd cyn y perfformiad. Arweinir y Daith Gyffwrdd gan Owen Pugh.