Nine Below Zero & Dr Feelgood

20:00, 20 Rhagfyr

£24

** Mae’r digwyddiad yma yn un sefyll i fynnu ( i ddawnsio!) ond bydd seddi ar gael yn y balconi ochr os ydych am gymryd saib neu ddewis i eistedd. Os ydych yn defnyddio cadair olwyn, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau os gwelych yn dda.**

Wedi eu ffurfio ar Ynys Canvey yn swydd Essex yn y 1970au cynnar, mae Dr. Feelgood yn parhau i fod yn un o’r actau rhythm a’r felan byw mwyaf poblogaidd a chyffrous yn y byd. Arweiniodd arddull bywiog a digyfaddawd eu perfformiad at yr albwm Stupidity a aeth yn syth i dop y siartiau yn y DU.

Mae Dr. Feelgood hefyd wedi mwynhau llwyddiant ledled y byd gyda chyfres o recordiau sengl poblogaidd yn cynnwys Roxette, Back in the Night, Milk and Alcohol, Down at the Doctors, She does it Right, Going back Home a See you later Alligator – a roddodd eu record aur gyntaf i’r grŵp.

Recordiwyd yr albwm olaf yn nodweddu Lee Brilleaux, Down at the Doctors, yn fyw ym mar cerddoriaethDr. Feelgood ar Ynys Canvey, (safle gwesty’r Oysterfleet bellach) jyst dau fis cyn iddo farw.

Mae’r band presennol yn cynnwys yr adran rythm sef Kevin Morris ar ddrymiau a Phil Mitchell ar fas (y ddau wedi bod efo’r band ers 35 mlynedd), Gordon Russell ar gitâr, a Robert Kane (o’r Animals gynt), yr ychwanegiad diweddaraf, yn ymuno ym 1999.

Mae ffilm Julien Temple Oil City Confidential a ryddhawyd ar 2il Chwefror 2010 yn adrodd hanes blynyddoedd cynnar y band yn nodweddu cyfnod Wilko Johnson.

Ym mis Mai 2011 ail-ryddhawyd yr albwm Chess Masters, a ryddhwyd yn wreiddiol yn 2000 ar y label EMI, yn ddigidol … teyrnged y band i Chess Records, cartref i lawer o artistiaid melan gorau’r 20fed ganrif a’r albwmDr. Feelgood cyntaf i nodweddu llais Robert.

Mae’r band yn parhau i deithio’n helaeth ledled y byd.