Noson Agored Hyfforddiant Ceredigion Training a Dysgu Bro Ceredigion

15:00, 19 Mawrth

Am ddim

Rydyn ni’n cynnal noson agored yn HCT, Llanbadarn ar 19eg o Fawrth rhwng 3yp a 7yh.

Mae’n gyfle i chi ddod i ymweld â’n canolfan a gweld ein cyfleusterau.

Gallwch gael rhagflas o’r gwahanol lwybrau galwedigaethol rydym yn eu cynnig yn Hyfforddiant Ceredigion a chwrdd â’r tîm! Mae ein llwybrau yn cynnwys mecaneg moduron, gwaith coed, plymio, gweinyddu busnes, trydanol a thrin gwallt.

Mae’r noson hefyd i hybu cyrsiau mae Dysgu Bro Ceredigion yn eu cynnig i unigolion 16+, felly mae rhywbeth i bawb gyda ni! Mae’r cyrsiau hyn yn amrywio o TG i gymorth cyntaf, trefnu blodau i Iaith Arwyddion Prydain, a llawer mwy!

Rydym hefyd yn cynnig dosbarthiadau mathemateg trwy’r prosiect Multiply. Mae Multiply yn rhaglen newydd a ariennir gan y llywodraeth drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU sy’n darparu hyfforddiant rhifedd am ddim i’ch helpu i wella hyder gyda niferoedd ac ennill cymhwyster. Dewch i ddysgu mwy am hyn!

Cysylltwch â ni ar 01970 633040 neu e-bostiwch info@hctceredigion.org.uk am fwy o wybodaeth.

Edrychwn ymlaen i’ch gweld!