Noson Cawl a Chân gyda Phwyllgor Aberconwy/Menter Iaith Conwy

18:00, 1 Mawrth

Am ddim

Be?Noson ‘Cawl a Chân’ – Dewch i ymuno hefo ni ar gyfer noson gymdeithasol a hwyliog o ganu a sgwrsio anffurfiol, dan arweiniad Beryl a Bryn, Pandy Tudur.

Pam?I ddathlu Dydd Gŵyl Ddewi a Chymreictod!

Lle?Liverpool Arms Conwy, ar y Cei yng Nghonwy

Pryd?6-8pm ar Nos Wener, Mawrth 1af!

Byddwn yn canu clasuron Cymraeg, fel Pan fo’r Nos yn hir, Anfonaf Angel, Safwn yn y Bwlch i enwi ond rhai, a bydd cawl yn cael ei weini yn ystod y noson. Mae Cân i Gymru yn dechrau am 8 felly fyddwch chi adra mewn da bryd! (siŵr o fod ar y teli yno ’fyd!) Dim rhaid bod yn ganwrs proffesiynol – jest dewch a’ch llais! Byddwn yn darparu copis o’r geiria – neb yn disgwyl i chi gofio popeth

Come and join us in the Liverpool Arms, Conwy between 6-8pm on Friday 1st of March, to celebrate St.David’s Day! It’ll be an informal evening of singing Welsh classics – no singing experience necessary! Just bring your voice – or just come and listen!