Noson yng nghwmni Jo Heyde

19:30, 4 Hydref

Am ddim i aelodau (aelodaeth £10), neu £5

Noson yng nghwmni Jo Heyde
Nos Wener 4ydd Hydref am 7.30pm
Cymdeithas Ceredigion, Caffi Emlyn, Tanygroes, Ceredigion SA43 2JE
Daw Jo Heyde i gyflwyno ei phamffled cyntaf o gerddi dan yr enw Cân y Croesi – https://www.ystamp.cymru/…/rhagarcheb-cn-y-croesi-jo-heyde. Bydd hefyd yn sôn ychydig am ei hanes a’r math o bethau sydd wedi’i harwain at ble mae hi nawr, er mwyn rhoi cyd-destun i’r cerddi yn y gyfrol.Yng ngeiriau Jo, ‘Nid y bont sy’n bwysig ond cân y croesi’. Fel y dywed Cyhoeddiadau’r Stamp, ‘Dyna grynhoi ysbryd y casgliad tlws a myfyrdodus hwn sy’n croniclo teithiau’r bardd yn ôl a blaen o dde Lloegr i orllewin Cymru, gan gasglu tameidiau o’i hiaith newydd ar ei hynt, ei byd newydd yn ennill lliwiau gyda phob croesi.’Mae Jo’n aelod o Ysgol Farddol Caerfyrddin ac o dîm Talwrn Y Derwyddon. Bu’n fardd y Mis Radio Cymru ar gyfer mis Gorffennaf eleniNoddwyd gan Lenyddiaeth Cymru