Dewch i fwynhau cyngerdd arbennig o fyd y Sioeau Cerdd a chaneuon ysgafn poblogaidd gan dri o unawdwyr blaenllaw Cwmni Theatr Maldwyn dros y blynyddoedd, sef Aled Wyn Davies, Sara Meredydd ac Edryd Williams.
Bydd y cerddor dawnus Linda Gittins yn cyfeilio iddynt, gyda’r noson yn nwylo medrus y digrifwr, Glyn Owens.