Sgwrs banel – Sgwennu am ddiwylliant a’n ffordd o fyw ni yng Nghymru

19:00, 4 Tachwedd

Ydych chi’n mwynhau dweud eich dweud?

Beth am ddod i’n sgyrsiau panel ar-lein i glywed gan rai o leisiau mwyaf blaenllaw Cymru?

Ymunwch ag Ifor ap Glyn, Manon Steffan Ros, Izzy Rabey a Sara Erddig i glywed beth sy’n eu hysbrydoli i leisio barn am ddiwylliant a’n ffordd o fyw ni yng Nghymru

Dyddiad: 4/11/24

Amser: 7pm Lleoliad: Zoom

Cofrestrwch nawr drwy ddilyn y ddolen.

Os ydych wrth eich bodd yn lleisio barn ar faterion pwysig, dyma’r cyfle i chi. Pwy ag ŵyr… efallai mai chi fydd ein colofnydd nesaf!

Diolch am gefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru a Cymru Greadigol, sy’n ein galluogi i gynnal y digwyddiadau yma’n rhad ac am ddim, yn rhan o’n prosiect Arfogi Lleisiau Newydd.