Ymunwch â ni i ddathlu hanner ffordd Ymgyrch Cribyn! Mae 6 wythnos gyda ni i godi’r arian felly dewch draw i ddysgu mwy am y cynllun wrth i ni ddathlu!
Mi fyddwn yn chwarau hen filmiau Cribyn ac yn sgwrsio am yr ymgyrch. Mi fydd fan bitsa yn bresennol yn ogystal a bar y Vale a lle i brynnu te a choffi. Mi fydd cyfle gyda chi i ofyn cwestiynau, i weld y cynlluniau ac i brynu siariau os ydych yn dymuno!
Erbyn hyn, mae’r wefan, Facebook, Instagram ac Youtube yn fyw felly ymwelwch a rheiny os hoffech ddysgu mwy am y prosiect. Dyma ein cyfle i berchnogi’r ysgol, peidiwch a’i golli!