Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein rhaglen ar gyfer 2024!
Mae’n llawn amrywiaeth o bynciau diddorol a sgiliau newydd i’w dysgu. P’un a ydych chi’n edrych i roi cynnig ar rywbeth hollol newydd, neu ddatblygu sgil, beth am ddod draw i ymuno â ni?
Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda llawer o artistiaid ac arbenigwyr lleol yng Ngheredigion, gan gynnwys Marian Haf, Dafydd Wyn Morgan, Nathan Goss a’r Athro Dafydd Johnston, a fydd yn rhannu eu gwybodaeth a’u brwdfrydedd gyda chi.
Dros y misoedd nesaf mae gennym Ffotograffiaeth Nos: cyflwyniad ar y 9fed a’r 10fed o Chwefror ac eto ar yr 8fed a’r 9fed o Fawrth, ynghyd â chynnal adeiladau hanesyddol ar 7 Mawrth.
Yn y gwanwyn mae Marian Haf yn dychwelyd i gynnal un arall o’i gweithdai Argraffu gyda Phecynnu, ac yna tri chwrs newydd sbon: Spring Foraging, Words from the Meadow: Creative Writing a’r Sistersiaid yng Nghymru.
Rydym yn gyffrous iawn i fod yn cynnal cymaint o gyrsiau newydd yn 2024 ac yn edrych ymlaen at groesawu mwy o bobl i Ystrad Fflur.
I gael gwybod mwy ac i weld ein rhaglen lawn o gyrsiau, ewch i’n gwefan Cyrsiau a digwyddiadau (strataflorida.org.uk) neu cysylltwch â ni yn info@strataflorida.org.uk