![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/14/2024/05/RaJ-Landscape-c-Sleepy-Robot-2-308x227.jpg?0)
Mae Ballet Cymru, cwmni sydd wedi ennill Gwobr y Critics’ Circle, yn cyflwyno addasiad eithriadol o gampwaith Shakespeare, “Romeo a Juliet”.
Mae ymladd dwys, deuawdau angerddol a themâu oesol yn atseinio trwy goreograffi dramatig a thelynegol. Mae gwisgoedd cywrain a thafluniadau fideo neilltuol yn creu byd o berygl a chyffro, lle caiff dau gariad ifanc eu dal mewn hen elyniaeth.
Mae “Romeo a Juliet” yn cynnwys coreograffi gan Gyfarwyddwyr y cwmni, Darius James OBE ac Amy Doughty, a gwisgoedd gan Georg Meyer-Wiel (www.meyerwiel.com) sydd wedi creu gwisgoedd ar gyfer rhai o gwmnïau mwyaf blaenllaw’r byd, gan gynnwys Rambert Dance Company ac Australian Dance Theatre.