Russ Williams a Gwilym Bowen Rhys

18:30, 30 Hydref

Am ddim

Dewch i ddathlu cyhoeddi’r gyfrol Where the Folk, A Welsh Folklore Roadtrip yng ngwmni’r awdur, Russ Williams a’r cerddor Gwilym Bowen Rhys.

Magwyd Russ Williams yng Nghaernarfon ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae’r gyfrol newydd Where the Folk yn gofnod o siwrne Russ wrth iddo deithio Cymru benbaladr yn ei Fiesta gwichlyd, Griff, i chwilio am leoliadau sy’n gysylltiedig â hen chwedlau, llên gwerin a ffugchwedlau cyfoes Cymru.

Bydd Russ yn sgwrsio am y gyfrol, a bydd y cerddor lleol Gwilym Bowen Rhys, yn cyfrannu at y noson gyda set fer o ganeuon gwerin difyr.

Dewch am dro i Palas Print i gael gwybod mwy am y daith, sydd, wrth gwrs, yn cynnwys stop yng Nghaernarfon.

Noson am ddim, croeso cynnes i bawb