Sefydlu Makumbusho ya Mikindani darlith gan Robert Williams

14:00, 8 Chwefror

Am Ddim

Bydd Cyfeillion Storiel yn cynnal  dau sgwrs gyda Robert Williams am ei brofiadau yn sefydlu amgueddfa yn Tansanïa.

 

Mae  Makumbusho ya Mikindani  yn amgueddfa i bobl Makonde sy’n byw ar ffin Tansanïa/ Mosambîc y rhan tlotaf o’r ddwy wlad.

 

Roedd henuriaid y gymuned eisiau adeilad pwrpasol fysa’n  cyflwyno ei hanes  a chofnodi ei thraddodiadau diwylliannol i’r genhedlaeth ifanc i greu teimlad o falchder a hunanhyder yn y byd. Roedd hyn yn gamp gan doedd yna ddim profiad na adnoddau  o ddiwylliant amgueddfeydd yn Tansanïa, a doedd yna ddim adnoddau tebyg wedi ei sefydlu yn rhannau arall o’r wlad.

 

Gwirfoddolodd Robert Williams o Ynys Môn ei brofiadau yn y maes . Drwy ymweld hefo’r Makonde a gweithio ar y cyd hefo tîm lleol brwdfrydig fe adnewyddodd adeilad, gosodwyd arddangosiadau ac roedd hyfforddiant i’r staff. Agorwyd yr amgueddfa chew mlynedd yn ôl ac mae wedi bod yn llwyddiant syfrdanol. Erbyn hyn mae yn cael ei rhedeg gan y gymuned ac mae yn ehangu yn flynyddol.

 Gwener 8fed o Fawrth. 2 o gloch  Robert Williams  Sefydlu Makumbusho ya Mikindani – amgueddfa leol  i drigolion  sydd yn byw ar ffin  Tansanïa

 

Gwener Mawrth 15 2 o gloch  ‘Mikindani’ Film Newydd 50 munud sydd yn canolbwyntio ar esblygu ac ehangu traddodiadau’r Makonde a rhoi cyfle i weld i mewn i’w bywyd dydd i ddydd .

 

Croeso Cynnes i bawb