Sesiwn creu a chrefft ar thema hydref a chalan Gaeaf gyda Y Pethau Bychain

14:00, 30 Hydref

Am Ddim

Cwmni bach wedi’i ffurfio gan ddwy addysgwr sy’n angerddol am gelf a chrefft ym myd natur ydy Y Pethau Bychain. Rydym wedi ymrwymo i hybu ac addysgu plant a phobl ifanc am dreftadaeth a diwylliant Cymru drwy weithgareddau creadigol ac addysgol. Mae ein cariad at greu a’n balchder yn hanes Cymru yn ysbrydoli ein gwaith.

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi ein bod yn dod i Storiel ar gyfer sesiwn grefft arbennig! Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar thema Hydref a Chalan Gaeaf traddodiadol Cymreig. Yn ystod y digwyddiad, byddwn yn adrodd stori’r Gwylltgi ac yn cynnal sesiwn grefftau gan ddefnyddio adnoddau naturiol.

Bydd plant a’u teuluoedd yn cael cyfle i greu crefftau unigryw yn yr ardal allanol, gan ddefnyddio deunyddiau naturiol o fyd natur. Ymunwch â ni am ddiwrnod o hwyl wrth i ni ddathlu’r tymor mewn ffordd draddodiadol a chreadigol.”

Arianwyd y gweithgaredd yma gan Llywodraeth y DU