Sesiwn ‘galw draw’ prosiect Creu Cof (Llandudno)

12:00, 5 Hydref

Creu Cof: Llandudno yn ystod ar Ail Rhyfel Byd / Memories of Llandudno during WW2

Pnawn ‘galw heibio’ prosiect Creu Cof

Ystafell gyfarfod Llyfrgell Llandudno (llawr gwaelod)

Dydd Sadwrn yma 5ed Hydref

12pm-3pm

Bydd yr haneswyr Nathan Abrams a Gareth Roberts yn gwneud ambell gyflwyniad byr ar y prosiect a’r hanesion maent wedi eu casglu yn barod. Bydd hefyd gyfle i’r cyhoedd gyfrannu eu straeon.

Mae Criw Creu (sef un o bwyllgorau ardal Menter Iaith Conwy) yn cynnal prosiect ymchwil i ddarganfod hanesion pobl leol o ardal Llandudno yn ystod cyfnod yr Ail Ryfel Byd. 

Bydd y straeon a’r creiriau a gasglwyd yn ffurfio arddangosfa ddigidol i’w arddangos yn Eglwys y Drindod, Llandudno, o’r 16eg o Hydref 2024 tan ddiwedd y mis, fel rhan o ddigwyddiad cenedlaethol ‘The Longest Yarn’.

Gyda chymorth ariannol cronfa SPF (Cronfa Ffyniant Gyffredinol) mae’r pwyllgor wedi comisiynu dau hanesydd i arwain y prosiect, sef Nathan Abrams a Gareth Roberts. Maen nhw eisoes wedi casglu llawer o hanesion o archifau, hen bapurau ac ati, ond y cam nesaf – a’r un pwysicaf – yw cael rhagor o straeon gan bobl leol.

Cyswllt: 

Gareth Roberts (garethroberts754@yahoo.co.uk)

Nathan Abrams (n.abrams@bangor.ac.uk)