Ymunwch â Gwyrfai Gwyrdd a DEG am sesiynau galw heibio arbennig ar Dachwedd 26!
Mae Gwenno ac Osian o DEG yma i roi cyngor arbed ynni gwerthfawr i chi.
- Cyngor a chefnogaeth i aelwydydd i’w galluogi i leihau eu biliau ynni trwy leihau gwastraff ynni diangen.
- Cyngor a chefnogaeth ar gyfer problemau sy’n gysylltiedig â boeleri, inswleiddio, lleithder, llwydni, cyddwysiad a charbon monocsid.
- Cyfle i ymuno â’r Gofrestr Gwasanethau â Blaenoriaeth.
- Bwlb golau LED am ddim!!
- Cyfeirio at asiantaethau eraill a all roi cyngor a chefnogaeth efo tlodi tanwydd.
- Gwiriad budd-daliadau a chyngor ar grantiau fel ECO4, Nyth.
- gwenno@deg.cymru, 07495 237679
Gwyrfai Gwyrdd:
Fe allwch ddysgu mwy am waith Gwyrfai Gwyrdd a’r ddiweddaraf ar:
➡ Sefydlu Clwb Ynni Gwyrfai (trydan 25% rhatach i aelodau!)
➡ Prosiectau Solar Cymunedol a Gwresogi Cymunol