Sesiwn Nos Wener: Tacla

20:00, 27 Medi

£8

Cofiwch am y noson arbennig sy’n dod lan y nos Wener YMA, Medi 27, yn y Llew Gwyn, Talybont am 8 o’r gloch!

Nid yn aml y’n ni’n croesawu band jazz Cymraeg i’r pentre ond dyna yw TACLA: band yn chwarae jazz sipsi a cherddoriaeth y 30au yn arddull Django Reindhart gyda gitars, bas dwbl, trwmped a chlarinet hefyd.

Bydd yn noson hwyliog iawn: peidiwch â’i cholli – a beth am wneud noson ohoni â phryd bar?