Ar ôl sefydlu stiwdio ym Mhen Llŷn yn 2010, mae gwaith yr artist gwaith metel Junko Mori wedi cael ei ddylanwadu gan ei hamgylchedd, yn enwedig Môr yr Iwerydd – corff o ddŵr sy’n glir, yn oer, ac yn gyfoethog gyda hanes y tiroedd o’i gwmpas.
Mae cerfluniau metel unigryw Juko Mori yn wrthrychau harddwch digyffelyb sydd wedi’u casglu gan amgueddfeydd mawr fel yr Amgueddfa Brydeinig ac Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru.
Ymunwch â ni yn Storiel wrth i Junko Mori drafod ei gyrfa, ei phroses waith a’i hysbrydoliaeth mewn sgwrs fydd werth ei glywed a ni ddylid ei cholli.