Bore Siarad Cymraeg (lefel ganolradd ac uwch)
Dewch i ymarfer eich Cymraeg a gwrando ar Rhian Williams yn trafod yr emynydd W. Nantlais Williams, yn Hyb Rhiwbina, Caerdydd, CF14 6EH, am 10.30am.
Yn rhad ac am ddim. Nid oes angen cofrestru ymlaen llaw.
Dan nawdd Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd. Croeso cynnes i bawb.
Manylion pellach: gwybodaeth@cwmpawd.org.