Mae haneswyr wedi tueddu i bortreadu cymunedau chwarelyddol Fictoraidd ac Edwardaidd Gwynedd fel ‘cadarnleoedd y diwylliant Cymreig’, ble ’roedd ‘llygad geryddgar Anghydffurfiaeth yn effeithio’n ddwfn’ ar ymddygiad y trigolion o ddydd-i-ddydd, gan fod ‘gafael y capel yn ddwys a heb ei gyfyngu i ddyddiau Sul’.
Nid yw’n syndod felly bod sylwedyddion y cyfnod bron yn ‘unfrydol gytûn ynglŷn â pharchusrwydd dyrchafedig’ gweithwyr llechi siroedd Caernarfon a Meirionnydd a bod y chwarelwyr hefyd yn cael eu canmol am eu tueddiad i arddel ‘lefel uchel o ddiwylliant Cymraeg’. Wedi’r cyfan, ynghyd â hyrwyddo a hybu rhinweddau difyrion brodorol ‘derbyniol’ a ‘thraddodiadol’– megis eisteddfodau, cyfarfodydd canu a chymdeithasau llenyddol – byddai llawer o weinidogion Anghydffurfiol dylanwadol oes Fictoria hefyd yn mynd ati’n fwriadol i geisio llesteirio twf unrhyw adloniannau ‘estron’ ymwthiol, megis pêl-droed neu griced. Honnwyd fod campau o’r fath yn gynrychioliadol o’r ‘diwylliant cableddus oedd yn gysylltiedig â’r byd diwydiannol newydd’ a’u bod yn cyd-fynd â ‘ffordd [baganaidd, llawn pechod] a fygythiol o fyw, oedd yn cael ei fewnforio o Loegr’.
Ond er gwaethaf ymdrechion taer y capeli i atal y boblogaeth leol rhag ymwneud â gweithgareddau ‘hollol anfad’ o’r fath, ’roedd gan y rhan fwyaf o bentrefi chwarelyddol gogledd orllewin Cymru eu timau pêl-droed eu hunain erbyn y 1890au, tra ’roedd prif glybiau’r rhanbarth – sef Bangor, Caernarfon a Phorthmadog – hefyd yn derbyn cefnogaeth frwd gan y gweithwyr llechi. Ymhellach, mae nofel led-hunangofiannol Caradog Prichard, Un Nos Ola Leuad – sy’n ddatguddiad damniol o natur wirioneddol bywyd mewn pentref chwarelyddol ar ddechrau’r ugeinfed ganrif – yn cynnwys hanes camymddwyn treisgar mewn gêm bêl-droed drwg ei thynged, ochr yn ochr â disgrifiad manwl o ornest focsio ffyrnig (ac anghyfreithlon, yn ôl pob tebyg) mewn tafarn leol.
Yn amlwg, nid yw cofnodion o’r fath yn cytgordio o gwbl gyda’r canfyddiad o barchusrwydd dyrchafedig ac maent hefyd yn mynd yn groes i’r honiadau ynglŷn ag awdurdod hydreiddiol a diwrthwynebiad Anghydffurfiaeth o fewn y cymunedau chwarelyddol. Felly, a oedd gweithwyr llechi Fictoraidd ac Edwardaidd gogledd orllewin Cymru yn fwy duwiol a pharchus nag unrhyw garfan gydoesol arall o weithwyr diwydiannol, mewn gwirionedd? Gan ganolbwyntio ar ddiwylliant chwaraeon Gwynedd ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif, bydd y sgwrs hon yn dadlau nad yw’r farn hanesyddol draddodiadol ynglŷn â chwarelwyr y rhanbarth yn gyfan gwbl gywir ac felly – trwy estyniad – nad oedd goruchafiaeth a dylanwad y capeli mor drwythol a hollgwmpasog â’r hyn sydd wedi cael ei awgrymu’n flaenorol chwaith.