Sgyrsiau Hanes Chwaraeon Gwynedd Dr Meilyr Emrys #3 Cymru Gemau Olympaidd Paris 1900 a 1924

14:00, 24 Hydref

Am Ddim

’Roedd tîm Olympaidd Prydain ar gyfer Paris 2024 yn cynnwys mwy o aelodau Cymreig nag erioed o’r blaen ac enillodd athletwyr ‘Gwlad y Gân’ fwy o fedalau eleni nag mewn unrhyw Olympiad blaenorol. Ond nid yr haf hwn oedd y tro cyntaf i’r mabolgampau rhyngwladol pedeirblynyddol enwog ymweld â Pharis. Yn wir, ’roedd prifddinas Ffrainc eisoes wedi llwyfannu’r Gemau Olympaidd ddwywaith yn flaenorol – ym 1900 a 1924 – ac ’roedd rhai Cymry ymysg y cystadleuwyr ar yr achlysuron hynny hefyd. Ond pwy yn union oedd yr unigolion hynny a pha mor llwyddiannus oedden nhw?
Ynghyd â thrafod hanes coll yr un mabolgampwr Cymreig oedd yn dyst i anhrefn gemau 1900, bydd y sgwrs hon hefyd yn edrych ar hynt a helyntion y naw Cymro fuodd yn ymryson am fedalau pan ddychwelodd y carnifal chwaraeon teithiol mawr i lannau’r afon Seine, ychydig o dan chwarter canrif yn ddiweddarach. Ochr yn ochr â’r criw dethol hynny o Gymry ‘swyddogol’, ’roedd tîm Prydain ar gyfer Gemau Olympaidd 1924 hefyd yn cynnwys dau athletwr blaenllaw arall o dras Gymreig ac wrth i’w straeon rhyfeddol hwythau gael eu hadrodd, bydd y cysylltiad lled-ddirgel rhwng Cymru â’r ffilm, ‘Chariots of Fire’, yn cael ei ddatgelu.