Gwta dair blynedd wedi i Gymdeithas Bêl-droed Cymru gael ei sefydlu yn Wrecsam, penderfynodd Bangor – a nifer o glybiau eraill – adael y corff llywodraethol eginol a mynd ati i ffurfio eu cymdeithas amgen eu hunain, oedd wedi ei chanoli yn y gogledd orllewin. Ganed y Northern Welsh Football Association ym mis Hydref 1879 ac – er bod y dynodiad rhanbarthol o fewn enw’r corff newydd yn awgrymu i’r gwrthwyneb – mae’n amlwg mai gobaith ei sylfaenwyr oedd herio (a dymchwel) hegemoni cenedlaethol cydnabyddedig y sefydliad gweinyddol hŷn oedd eisoes yn gweithredu yn y dwyrain.
Mynegwyd hynny gan ddyfodiad cystadleuaeth gwpan newydd ar gyfer clybiau’r Northern Welsh F. A. – sef adlewyrchiad gorllewinol o dwrnamaint blynyddol sefydledig Cwpan Cymru – ac ar yr un pryd, gwnaethpwyd ymdrech i danseilio statws tîm cenedlaethol Cymru hefyd, gan i swyddogion y gymdeithas amgen ffurfio eu tîm dethol cynrychioliadol (rhanbarthol) eu hunain, gyda’r bwriad o fynd ati i drefnu gemau rhyngwladol llawn yn erbyn Lloegr, yr Alban ac Iwerddon.
Ond er gwaethaf cynlluniau mawreddog ac uchelgeisiol (ac ymddangosiadol hirdymor) o’r fath, dim ond am gyfnod byr o amser y llwyddodd y Northern Welsh Football Association i oroesi fel sefydliad gweithredol. Yn wir, o fewn llai na degawd, ’roedd y corff llywodraethol amgen eisoes wedi ymddatod a dod i ben. Cynhaliwyd rownd derfynol olaf y gwpan her orllewinol ym mis Ebrill 1886 a dychwelodd yr enillwyr, Bangor – a’r rebel-glybiau eraill – yn ôl i fod yn aelodau o Gymdeithas Bêl-droed Cymru.
Ar ôl trafod y ffactorau a arweiniodd at ddyfodiad y Northern Welsh FA yn y lle cyntaf, bydd y sgwrs hon yn olrhain hanes (fyrhoedlog) y gymdeithas bêl-droed ‘genedlaethol’ amgen a hefyd yn ystyried y rhesymau am ei methiant, cyn gofyn beth oedd gwaddol y corff gorllewinol… os oedd un o gwbl!