Mae Sioe Aberystwyth a Sir Ceredigion yn un o sioeau undydd mwyaf canolbarth Cymru. Caiff ei chynnal yn flynyddol ar ail ddydd Sadwrn mis Mehefin.
Gyda 1700 yn cofrestru i gystadlu mae safon uchel i’r cystadlu ac mae’n sioe genedlaethol i rai bridiau o ddefaid. Mae’n denu ymwelwyr o bob cwr o Gymru, gan gynnwys cynrychiolwyr o’r diwydiant amaeth, cymunedau lleol, a’r cyhoedd.
Un o’n datblygiadau diweddaraf yw’r cneifio cyflym a’r ddawns fin nos, gyda pherfformiad gan Dafydd Iwan.
Dewch i gwrdd â ffrindiau, trafod busnes a mwynhau cefn gwlad Ceredigion ar ei orau.