Sylwch mai dyma’r un gweithdy a gynhaliwyd yn ‘Ar Lafar’, Gŵyl Dysgwyr Cymraeg yn Amgueddfa Wlân Cymru ym mis Ebrill 2024.
Mae Joshua Morgan yn ddarlunydd proffesiynol sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Yn ddiweddar, mae wedi bod yn darlunio ei ffordd drwy’r Gymraeg dan faner Sketchy Welsh. Mae Sketchy Welsh yn cyfuno brawddegau Cymraeg gyda darluniau cofiadwy mewn ymgais i helpu i wneud y broses ddysgu yn haws ac yn fwy pleserus.
Yn ei weithdy, bydd yn gwahodd pobl i roi cynnig ar rai o’r technegau y mae’n eu defnyddio i ddarlunio a gwneud dysgu Cymraeg hyd yn oed yn fwy ystyrlon.
- Rhaid archebu tocyn. Llefydd yn gyfyngedig. Addas ar gyfer oedolion, 18+.
- £5 y person