Steddfod Amgen (Malu Awyr)

19:00, 5 Medi

Bydd unrhyw un yn deilwng? 

A oes heddwas?!

Fel rhan o’u nosweithiau Malu Awyr misol poblogaidd ym Mae Colwyn, mae Pwyllgor Colwyn yn trefnu Steddfod Amgen y tro hwn!

Dewch i Oriel Ink i ‘gystadlu’ ac i chwerthin mewn bron iawn unrhyw faes/adran dan haul!

Canu? Stand-up comedi? Beatboxio? Hud? Chwarae offeryn? Dawns? Triciau pêl? Barddoniaeth? Acrobatics? Unrhyw beth arall o fewn rheswm gellir ei berfformio’n ddiogel yn yr oriel?!

Triwch hi, bydd yn hwyl!

Croeso i steddfodwyr amgen o unrhyw oed (gan gynnwys plant)

Dim tâl cystadlu na mynediad, ond anogir cyfraniadau (a bydd raffl)