Dyma gyfle i blant a phobl ifanc Môn weld sioe Cymrix gan gwmni theatr Arad Goch *AM DDIM* yn ystod gwyliau hanner tymor Hydref, a hynny yn Theatr Fach Llangefni! Mae’r ddrama’n ymdrin â hunaniaeth Gymreig a’r iaith Gymraeg trwy lygaid tri pherson ifanc. Yn dilyn y perfformiad, bydd gweithdy hwyliog i’r plant o dan arweiniad tîm Theatr Ieuenctid Môn – lle bydd yna gyfle i’r plant serennu wrth gyfleu’r gorau o’u hardal leol!
Dau berfformiad ar gael – 11:30am ac 14:30pm! Dewch yn llu!