Taith fyr (llai na 2 filltir) dros dir anwastad, gan gynnwys mannau serth
Gwanwyn yw’r adeg pan fydd Clychau’r gog (Hyacinthoides non-scripta), un o’n hoff flodau gwyllt, yn rhoi sioe ymlaen. Lloriau coedwigoedd, dolydd a chlogwynni môr wedi eu paentio’n las gan bresenoldeb poblogaethau helaeth, sy’n arwyddocaol o goedwigoedd blaenorol. Uwchben Llanberis, mae poblogaeth gynhenid o Glychau’r Gog sydd wedi ei reoli’n gynaladwy ar gyfer cyflenwi hadau a bylbiau dan drwydded ers 2008. Bydd y daith hon yn gyfle i ddarganfod mwy ynglyn a’r clychau sydd yno, sut i sefydlu poblogaeth ohonynt a’u ecoleg a’u cynefinoedd dewisiol. Bydd y daith hon yn mynd i weld y boblogaeth trwyddededig a manylu ar ei reolaeth a’r farchnad ar eu cyfer.
Bydd y daith dros bellter byr gyda sawl saib ond gyda thir anwastad a serth mewn mannau.
Gweithgaredd gan aelod Grŵp Dŵr a Thir Dyffryn Peris, yn deillio o gynulliad cymunedol ar yr hinsawdd GwyrddNi
Cysylltwch gyda lowri@deg.cymru i archebu lle