Taith Gerdded Ardal yr Eisteddfod

10:15, 6 Awst 2024

Am ddim gyda tocyn

Taith gerdded arbennig, am ddim, o faes yr Eisteddfod wedi ei harwain gan Chris Jones ar ran meddwl.org, yng nghwmni Ellis Lloyd Jones a Mirain Iwerydd!

Dewch i ymuno â ni i fwynhau cwmni eraill ac i sgwrsio, i wrando ar siaradwyr gwadd, i ddysgu am hanes yr ardal hon ac i elwa o ymarfer corff ac awyr iach ac i gyfrannu at iechyd meddwl gwell.

Y daith:

– Taith gylchol, tua 4 milltir.

– Cyfarfod am 10:15am ym mhrif fynedfa Parc Ynys Angharad, i ddechrau am 10:30am.

– Taith hamddenol.

– Dros yr hen bont i’r comin i weld golygfeydd o faes yr Eisteddfod

Cerdded drwy’r comin i lawr tuag at yr A4054.

– Mae dau ran o’r daith ychydig yn serth i fyny, ac un rhan yn cynnwys 164 o risiau yn mynd i lawr.

– Gorffen yn nhafarn y Bunch of Grapes ym Mhontypridd erbyn 1pm am fwyd a diod (mae pob croeso i chi ymuno am fwyd yn unig heb wneud y daith gerdded).

Cwestiwn? Cysylltwch â gwefanmeddwl@gmail.com

Dyddiad cau i gofrestru: 3 Awst

Croeso mawr i bawb, ac i gŵn!