Taith gerdded Crwydro Comin Uwchgwyrfai

10:30, 9 Tachwedd

Bydd taith gerdded nesaf Yr Orsaf yn crwydro comin Uwchgwyrfai ar fore Sadwrn, 9 Tachwedd. Taith o 7.5km/ychydig llai na 5 milltir ydi hi, fydd yn cymryd ryw 2 awr i 2 awr a hanner. Bydd hi’n dir reit anwastad drwy lwybrau cyhoeddus a thiroedd corsiog. Gwisgwch yn briodol ar gyfer y tywydd a bydd angen dillad cynnes ac esgidiau cerdded sy’n dal dŵr.

Byddwn yn cyfarfod yn sgwar Y Fron ger yr hysbysfwrdd am am 10:30yb.

Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle cysylltwch efo llioelenid.yrorsaf@gmail.com