Taith gerdded i Dinas Dinlle wedi cal ei ail-drefnu ar gyfer prynhawn dydd Sul, 22 Rhagfyr, am 1pm. Taith o tua awran yn mynd am dro o amgylch Dinas Dinlle. Mae’r tywydd yn gallu bod yn ansefydlog adeg yma o’r flwyddyn felly gwisgwch yn briodol ar gyfer y tywydd – bydd angen dillad cynnes, cot law ac esgidiau cerdded sy’n dal dŵr (pwysig iawn!) – lapiwch yn gynnes!
Byddwn yn cyfarfod tu allan i’r toiledau a’r cae swings ger y maes parcio am 1pm. Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle cysylltwch efo llioelenid.yrorsaf@gmail.com