Taith Lansio “Taith Dyffryn Teifi” Gadewch i’r Antur Ddechrau!
Dydd Sadwrn, Rhagfyr 28ain
Taith Gerdded Gylchol Tua 4.5 milltir
Cyfarfod am 10 yb yn Iard Fferm Abercerdin SA44 4PA.
Mae’r daith gerdded yn cychwyn ar lan Afon Teifi ac yna’n troi i fyny drwy’r Coetir a dringo i gopa Bryngaer Pencoed-y-foel. Yna disgyn yn ôl i Abercerdin a gorffen yng Ngwesty’r Porth am Gawl a lluniaeth ysgafn, ffoniwch y Gwesty i archebu bwyd 01559362202.
Croeso i gŵn ar dennyn. Dim tâl am gerdded.
Os cwestiynau cysylltwch â Tom : 07866876741 neu 01559363200