Taith Gerdded Llwybr Arfordirol Penbryn

10:00, 27 Ebrill 2024

£5 / £3

Dydd Sadwrn Ebrill 27ain 2024

10yb o faes parcio Llandysul i ddal bws mini i Benbryn. Bydd angen i chi fwcio sedd ar y bws mini.

Mae croeso i gŵn ar y daith gerdded ond nid ar y bws mini. Os ydych am ymuno â ni gyda’ch ci, cofiwch gwrdd â ni ym maes parcio Ymddiriedolaeth Genedlaethol Penbryn tua 10.30am.
(Parcio am ddim i aelodau’r YG.
Tâl maes parcio o £5 – angen arian cywir).

Bydd y daith yn dilyn llwybr yr arfordir i Langrannog ac ar hyd y daith rydym yn gobeithio cael mynediad i’r “Traeth Cyfrinachol” i’r rhai abl iawn. Mae llwybr amgen ar gyfer pobl nad ydyn eisiau dilyn y llwybr hwnnw! 

Byddwn yn aros yn Llangrannog am tua 40 munud i bobl gael rhywfaint o ginio (dewch â’ch lluniaeth eich hun neu mae lluniaeth ar gael yn Llangrannog). Dychwelwn ar hyd llwybr yr arfordir gan osgoi’r Traeth Cudd.

Bydd y daith gerdded yn cymryd tua 3 awr, ac mae wedi’i graddio’n gymedrol. Mae rhai llethrau serth i fyny ac i lawr ar y llwybr arfordirol ac mae camfeydd.

Bydd y daith gerdded yn cymryd tua 3 awr a 40 munud o stopio ar gyfer cinio.

Cost, gan gynnwys bws £5 yr oedolyn (neu daith gerdded yn unig, £3). Plant dan 16 am ddim.

Ffoniwch Dave 01559 361537 / 07854493213 i archebu lle ar y bws ag am fwy o fanylion am y daith gerdded neu e-bostiwch info@dolenteifi.org.uk.