![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/14/2024/05/Taith-Gerdded-Llwybrau-308x436.jpg?0)
Cynhelir taith gerdded ar hyd llwybrau Penygroes gan Llio, sy’n un o griw gwefan fro DyffrynNantlle360. Mae’r daith hon yn rhan o ddigwyddiadau Wythnos Newyddion Annibynnol. Ceir cyflwyniad i hanes a llên gwerin yr ardal ar y ffordd. Croeso i BAWB ymuno.