Taith Gerdded Natur Tŷ Mawr

5 Mai 2024

5 Mai

Taith gerdded yn cael ei arwain gan Ioan Davies, Warden Parc Cenedlaethol Eryri mewn partneriaeth gyda Gŵyl Natur Cwm Penmachno. Bydd y daith yn dechrau am 2pm wrth y ffermdy i glywed ychydig o’i hanes cyn mynd ymlaen efo Ioan i archwilio prydferthwch naturiol dyffryn Wybrnant.

Ewch i wefan Gwyl Natur Cwm i archebu lle.