Taith Meddwlgarwch

09:30, 24 Mawrth

Ymunwch efo ni am daith meddylgar o amgylch Cwm Idwal gyda arweinydd meddwlgarwch lleol a Swyddog Partneriaeth Cwm Idwal. Fe fyddwn yn cerdded o amgylch Llyn Idwal gan stopio o bryd i’w gilydd i wneud ymarferion meddwlgarwch tra’n mwynhau’r natur o’n cwmpas. Mae’r daith yn dechrau am 9:30am o flaen Canolfan Cwm Idwal. Gall parcio fod yn anodd ar gyfer Cwm Idwal ond mae posib dal y gwasanaeth bws T10 i Gwm Idwal hefyd.

Rhaid archebu lle. Cysylltwch a Rhys Wheldon-Roberts:

ebost: rhys.wheldonroberts@nationaltrust.org.uk neu galwch 01248 605535 neu 07977 596517