Nid Taith y Pererin Mohoni!

19:00, 24 Mai

am ddim

Sgwrs ar-lein yn Gymraeg gan Arwel Emlyn

Dyma hanes taith gan y bardd Arwel Emlyn, tua un diwrnod bob wythnos, yn ystod gwyliau’r haf 2012. Enillodd y cerddi sy’n rhan o hanes y daith gadair Llanuwchllyn yn 2013.

Ar ôl cychwyn ar Lwybr y Pererinion, yn fuan iawn aeth Arwel oddi ar y Llwybr swyddogol ac anelu tuag at Ynys Enlli mor uniongyrchol ac y gellid. Felly nid Taith y Pererin Mohoni.

Dywedir bod mynd o Dreffynnon i Enlli dair gwaith fel pererin yn cyfateb i un bererindod i Rufain. Ond beth yw gwerth cerdded i Ynys Enlli trwy KFC a’r dafarn?

Ewch i wefan Cwmulus er mwyn cofrestru am le yn y gynulleidfa