Dod o Hyd i’ch Talent Busnes

17:30, 19 Mawrth

Am ddim ond mae angen archebu lle!

A ydych yn meddwl am lwybr gyrfa newydd? Oes gennych chi ddiddordeb mewn cychwyn busnes ond ddim yn siŵr beth yn union? Bydd y sesiwn yma yn eich helpu i archwilio’ch diddordebau, angerdd a’ch doniau i nodi pa rai o’r rhain y gellid eu troi’n fusnes.

Bydd y sesiwn hefyd yn cyffwrdd â hanfodion cychwyn busnes a fydd Abbie o Partneriaeth Ogwen yn cynnal cyflwyniad am hanfodion marchnata, i ddeall sut i leoli busnes ar lein. Byddwn yn edrych ar y pynciau canlynol –

– Targedau SMART

– Pwysigrwydd brandio

– Y cyfryngau cymdeithasol

– Sianeli a chynnwys digidol

Bydd niferoedd y mynychwyr yn cael eu cadw’n fach i alluogi pawb i ddod i adnabod ei gilydd a chreu cysylltiadau. Ethos yr Hwb Menter yw creu cymuned o unigolion yn yr run sefyllfa fydd yn gallu cefnogi ac annog ei gilydd mewn busnes. Bydd trosolwg o’r gefnogaeth bellach sydd ar gael o’r Hwb Menter hefyd yn cael ei ddarparu.

Bydd y sesiwn hon yn cael ei chynnal yn ddwyieithog.

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido’n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, trwy Gyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn. Mae hefyd yn cael ei gyllido’n rhannol gan y Gwasanaethau Adfer Niwclear (NRS), is-gwmni sy’n eiddo llwyr i’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA).