Theatr Genedlaethol Cymru: Ie Ie Ie

19:00, 1 Mawrth

Safonol: £12 Dan 25: £10

Mae dau berson ifanc yn ffansio’i gilydd. Mae ‘na ddau arall sy’n ffansio’i gilydd ‘fyd.

Mae’r ddau bar yn dilyn llwybrau eithaf tebyg wrth i’w perthynas ddatblygu.

Tan i brofiad un fynd i gyfeiriad hollol wahanol.

Mae Ie Ie Ie yn addasiad Cymraeg o Yes Yes Yes; sioe fyw arobryn gan y gwneuthurwyr theatr o Aoteaora/Seland Newydd, Karin McCracken ac Eleanor Bishop. Gyda Juliette Manon yn cyfarwyddo, mae’r sioe yn cynnwys cyfweliadau gonest gyda phobl ifanc Cymru, perfformiad unigol bachog, a chyfle i’r gynulleidfa gyfrannu. Dyma ddarn o theatr pwysig am brofiadau bywyd go iawn pobl ifanc heddiw sy’n codi cwestiynau hanfodol am berthnasau iach, chwant a chaniatâd.

Mewn cydweithrediad ag Aurora Nova
Comisiynwyd Yes Yes Yes yn wreiddiol gan Auckland Live

– Bydd Capsiynau Cymraeg wedi osod ar Stage Left
– Bydd Capsiynau Saesneg wedi osod ar Stage Right ​​​​​​