‘Tipyn o Sioe!’ Gallery Tour

13:00, 7 Awst 2024

Ymunwch â Will Troughton, Curadur Casgliad Ffotograffau Llyfrgell Genedlaethol Cymru am daith oriel arbennig o gwmpas ein harddangosfa newydd, Tipyn o Sioe!
 
Mae 2024 yn nodi 120 mlynedd ers sefydlu Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a Sioe Frenhinol Cymru. Mae’r arddangosfa yn edrych ar sut mae’r Sioe ac amaethyddiaeth wedi esblygu trwy’r cyfnod hyn gyda ffotograffau gan Geoff Charles, Arvid Parry-Jones, Bruce Cardwell a Haydn Denman.

Digwyddiad trwy gyfrwng y Saesneg.