Trafod emyn gan John Elias

10:30, 14 Medi

Am ddim

Bore Siarad Cymraeg (lefel ganolradd ac uwch).

I nodi 250 mlwyddiant geni’r pregethwr enwog John Elias, dewch i drafod ei emyn adnabyddus, ‘Ai am fy meiau i dioddefodd Iesu mawr?’, yng nghwmni’r Athro E. Wyn James, yn Hyb Rhiwbina (CF14 6EH) ddydd Sadwrn, 14 Medi, am 10.30am.

Yn rhad ac am ddim. Nid oes angen cofrestu ymlaen llaw.

Dan nawdd Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd.

Croeso cynnes i bawb.

Manylion pellach: gwybodaeth@cwmpawd.org.