Tregaroc Bach @ YHR

19:00, 4 Hydref

Nos wener 4ydd Hydref am 7yh bydd penllanw i ddathliadau TregaRoc yn dathlu’r 10 gyda gig i bawb yn Neuadd yr Ysgol. Cyfle i’r disgyblion a’u teuluoedd yn ogystal ar gymuned ehangach fwynhau amrywiaeth o gerddoriaeth gymraeg fyw!

Mae TregaRoc wedi rhoi cyfle ardderchog i ddisgyblion YHR i gyd weithio â neb llai nag Osian Candelas i gyfansoddi cân arbennig i ddathlu cymreictod ein hardal a’n treftadaeth.

Ymunwch â ni felly am ddangosiad cyntaf o’r gân wreiddiol a’r fideo arbennig yma. Hefyd bydd Candelas , Baldande a mwy yn perfformio ar y noson!

Bar a bwyd ar gael!

Bydd tocynnau am ddim i ddisgyblion Ysgol H R (3-16).
Codir tâl o £1 i blant eraill (dan 14 oed) a £5 (15+oedolion)

Ar werth dydd Mercher 25ain – cyntaf i’r felin!

Tocynnau ar werth o –
Swyddfa Ysgol Henry Richard
Argraffwyr Lewis+Hughes
Facebook messenger Tregaroc

Dewch i gefnogi a joio ein ‘Tre fach a sŵn nawr’!

Derbyniwyd cyllid i gyfrannu at y prosiect yma gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig, gyda chymorth Cynnal y Cardi gan Cyngor Sir Ceredigion
Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth yma.