Ymunwch â ni ar brynhawn arbennig wrth i ni edrych yn ôl ar waith anhygoel Cwmni Theatr Arad Goch ers ei sefydlu yn 1989. Ar Dachwedd 30ain am 3 o’r gloch y prynhawn, bydd Canolfan Arad Goch yn cynnal digwyddiad i nodi ymddeoliad Jeremy Turner, un o sylfaenwyr y cwmni ac sydd wedi bod yn Gyfarwyddwr Artistig ers 35 mlynedd.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys sgwrs gyda Jeremy Turner, lle bydd yn rhannu atgofion a straeon o’i yrfa hir a llwyddiannus. Fel rhan o’r cyflwyniad, bydd Jeremy hefyd yn dangos lluniau o rai o gynyrchiadau’r cwmni, gan roi cipolwg ar hanes cyfoethog Arad Goch.
Bydd lluniaeth ysgafn a diodydd ar gael ar ôl y cyflwyniad, gan roi cyfle i westeion sgwrsio a rhannu atgofion.
Rydym yn eich gwahodd yn gynnes i ymuno â ni yng Nghanolfan Arad Goch ar gyfer yr achlysur arbennig hwn.
Gan fod llefydd yn brin, rydym yn gofyn yn garedig i chi gadarnhau eich presenoldeb trwy ebostio post@aradgoch.org erbyn Tachwedd yr 8fed, os gwelwch yn dda.