![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/14/2024/04/Wales-100-Records1-308x436.jpg?0)
Ymunwch â’r darlledwyr Huw Stephens a Georgia Ruth ar gyfer digwyddiad arbennig ar lyfr newydd Huw, Wales: 100 Records, sy’n dadansoddi gyrfaoedd artistiaid recordio pennaf Cymru – o Tom Jones i Manic Street Preachers, o Max Boyce i Adwaith a mwy.
Mae gan Huw Stephens raglen ddyddiol ar BBC Radio 6 Music, mae’n gyflwynydd gwadd ar Saturday Live ar BBC Radio 4 ac yn cyflwyno rhaglenni wythnosol yn y Gymraeg a’r Saesneg ar BBC Radio Cymru a Wales. Dechreuodd ei yrfa ar BBC Radio 1, ac ers hynny mae wedi cydsefydlu’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig a Gŵyl Sŵn Caerdydd, ac mae’n sylwebu’n rheolaidd ar raglenni’r BBC o Ŵyl Glastonbury.
Cerddor a darlledwr o Aberystwyth yw Georgia Ruth. Enillodd ei halbwm Week of Pines Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2013, a bydd Mehefin yn ei gweld hi’n rhyddhau ei halbwm newydd, Cool Head. Mae hi hefyd yn cynnal sioe wythnosol ar BBC Radio Cymru.