Welsh of the West End

19:30, 18 Rhagfyr

£18 / £15

Mae WELSH OF THE WEST END yn ôl y Nadolig hwn!

  Yn dilyn eu taith epig ’sold-out’ y llynedd, ymunwch a’r grŵp theatr gerdd yn 2024 ar gyfer cyngerdd Nadoligaidd heb ei ail. Gyda chlasuron y Nadolig a ffefrynnau theatr gerdd, fe gewch eich swyno gan berfformwyr o sioeau fel Les Misérables, Phantom of the Opera a Wicked.

  Gyda dros 20 miliwn o wylwyr, mae Welsh of the West End wedi dod yn sêr ar-lein. Maent wedi syfrdanu cynulleidfaoedd yn rhyngwladol trwy gyrraedd rownd gynderfynol byw Britain’s Got Talent ar ITV, ac ers hynny maent wedi perfformio mewn lleoliadau eiconig fel y Royal Albert Hall, London Palladium, Canolfan Mileniwm Cymru a’r Stadiwm Principality.