Will Young – Light it Up

20:00, 13 Rhagfyr

£48

“Rwy’n cofio fy ngwreiddiau ym myd pop ac yn eu croesawu’n llwyr. Mae’n amser i ddathlu a chael hwyl.”  Mae hyn, a ddaw gan un o gantorion-gyfansoddwyr pop mwyaf poblogaidd a diysgog Prydain yn y 2000au, yn arwydd ei fod ar dop ei gêm ac ar fin dychwelyd i’r amlwg.

Dathlodd Will Young 20 mlynedd ers ei fuddugoliaeth wych ar Pop Idol gydag albwm o’i ganeuon mwyaf poblogaidd a thaith genedlaethol hynod lwyddiannus yn 2022, crynodeb godidog o yrfa hyd yma sydd wedi gweld pob un o’i wyth albwm stiwdio yn cyrraedd y 3 Uchaf yn y DU – gyda phedwar ohonynt yn cyrraedd Rhif 1 yn y siartiau.

Mae’r albwm “Light It Up” – a ryddheir ar 9 Awst – yn marcio dychweliad Will Young i “gerddoriaeth bop orfoleddus”.

Dywed: “‘Dwi’n meddwl, i mi, ‘roedd hyn yn ymwneud â theimlo’n fwy bodlon o’r diwedd ac yn medru mynd yn ôl at fwynhau cerddoriaeth bop lawen i’r eithaf.  ‘Dwi’n wir obeithio y bydd yr albwm hwn yn rheswm i ddawnsio, crïo a dathlu. ‘Dwi’n gwybod fy mod i’n gwneud y tri wrth wrando arno.”

I ddathlu’r albwm newydd, mae Will yn ymgymryd â’i daith fwyaf agos-atoch hyd yma – gyda sioe ar ffurf noson bersonol a chlyd o berfformadau acwstig, straeon a sgwrsio. Dywed am y daith: “Rwy’n gyffrous iawn i ymweld â llawer o lefydd nad wyf wedi bod o’r blaen. ‘Roeddwn am fynd i leoliadau llai o faint er mwyn gallu mynd o gwmpas y wlad yn iawn yn hytrach na chwarae’r dinasoedd mawr yn unig.”

I berfformiwr sydd wrth ei fodd ar y llwyfan, ac sydd wedi cyflawni wyth o deithiau cenedlaethol hynod lwyddiannus ac ymddangos mewn  gwyliau cerdd di-rif (mae wedi perfformio yn Glastonbury tair gwaith), ymddengys ei fod yn cymryd cam newydd ymlaen yn ei yrfa, gyda mwy o egni a brwdfrydedd nag erioed.

Canllaw oed 18+