Sgwrs banel – Creu darnau barn ar wleidyddiaeth a’r byd cyfoes

19:00, 6 Tachwedd

Am ddim

Ydych chi’n mwynhau dweud eich dweud?

Ymunwch â Malachy Edwards, Huw Onllwyn, Beth Winter a Dylan Iorwerth i glywed sut a pham eu bod yn sgwennu darnau barn ar wleidyddiaeth a’r byd cyfoes.

Dyddiad: 6/11/24

Amser: 7pm Lleoliad: Zoom

Cofrestrwch nawr drwy ddilyn y ddolen.

Os ydych wrth eich bodd yn lleisio barn ar faterion pwysig, dyma’r cyfle i chi. Pwy ag ŵyr… efallai mai chi fydd ein colofnydd nesaf!

Diolch am gefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru a Cymru Greadigol, sy’n ein galluogi i gynnal y digwyddiadau yma’n rhad ac am ddim, yn rhan o’n prosiect Arfogi Lleisiau Newydd.