Yn ystod y brifwyl, dyma gyfle i bobol sy’n byw ac yn gweithio yn Rhondda Cynon Taf ddod ynghyd i siapio’r dyfodol. I gynllunio beth hoffech ei weld yn datblygu o ran y Gymraeg a’r cymunedau ar ôl y brifwyl.
Dyma wahoddiad i chi ymuno â ni ym Mhabell y Cymdeithasau ar ddydd Llun 5 Awst, 3pm, i fod yn rhan o’r sgwrs ar beth fyddai’r gwaddol gorau i gymunedau Rhondda Cynon Taf?
O wefan straeon lleol i wobrau busnes, i weld mwy o gigs Cymraeg mewn pybs – ymunwch â chriw Ymbweru Bro i drafod sut gall y Gymraeg barhau i ffynnu’n lleol wedi’r Eisteddfod fawr.
Cynhelir y sgwrs gan gwmni Golwg, ac mae croeso mawr i bawb ddod i gyfrannu a chlywed mwy am yr hyn sy’n bosib.